Griffith Davies : Arloeswr a Chymwynaswr, Paperback / softback Book

Griffith Davies : Arloeswr a Chymwynaswr Paperback / softback

Part of the Scientists of Wales series

Paperback / softback

  • Information

Description

Dyma gyfrol sy'n croniclo bywyd a gwaith Griffith Davies (1788-1855), o'i blentyndod tlawd yn ardal chwareli Arfon i'w waith fel sefydlydd ysgolion mathemateg yn Llundain cyn gosod sylfaen i'r proffesiwn actiwari.

Tri mis yn unig o addysg ffurfiol a dderbyniodd Davies, a dyna pryd y sylweddolwyd fod ganddo allu rhyfeddol mewn mathemateg.

Mentrodd i Lundain, ac ar ol blynyddoedd wedi ymroi i hunan ddysgu cyhoeddodd lyfrau mewn mathemateg, ac yn y pen draw fe'i penodwyd yn brif actiwari i gwmni yswiriant y Guardian yn y ddinas.

Wrth i'w yrfa ddatblygu, daeth yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a derbyniodd glod ac anrhydeddau am ei waith.

Bu'n weithgar ym mywyd Cymraeg Llundain gan sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol yn ei famiaith, ac ymgyrchodd yn llwyddiannus dros hawliau tyddynwyr bro ei febyd a thros addysg i'w gyd-wladwyr.

Mae hanes bywyd Griffith Davies yn stori sy'n ysbrydoli.

Information

Other Formats

Save 4%

£16.99

£16.21

Information