‘Golwg Ehangach’ : Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria, Paperback / softback Book

‘Golwg Ehangach’ : Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria Paperback / softback

Part of the Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig series

Paperback / softback

  • Information

Description

Mae’r gyfrol hon yn cynnig golwg newydd ar ddelweddau cyfarwydd y ffotograffydd John Thomas (1838–1905), wrth eu gosod yng nghyd-destun llenyddol a syniadol Cymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dyma’r astudiaeth fanylaf o waith John Thomas hyd yma, sy’n torri cwys newydd wrth ddadansoddi’r delweddau ochr yn ochr â llenyddiaeth Gymraeg ei gyfoedion.

Mae’r gyfrol hefyd yn trafod perthynas Thomas ag O. M. Edwards, ac yn ystyried goblygiadau amwys y berthynas i’r modd y darllenir gwaith y ffotograffydd hyd heddiw; ac, mewn cyd-destun ehangach, cymherir gwaith Thomas â phrosiect y ffotograffydd Almaenig August Sander (1876–1964) i’r ugeinfed ganrif, gan gynnig dadansoddiad o weledigaeth greadigol ac arloesol y Cymro.

Other Formats

Save 4%

£19.99

£19.15