Williams Pantycelyn, Hardback Book

Williams Pantycelyn Hardback

Hardback

  • Information

Description

Un o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif yw Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, ac ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg.

Cynigiodd y gyfrol ffordd newydd i ddehongli athrylith yr emynydd o Bantycelyn, a thrwy hynny sefydlu enw Saunders Lewis fel beirniad mwyaf beiddgar a chreadigol ei genhedlaeth.

Er mwyn nodi trichanmlwyddiant geni'r emynydd yn 2017, mae Gwasg Prifysgol Cymru yn ailgyhoeddi'r gyfrol; mewn rhagymadrodd helaeth i'r cyhoeddiad newydd, mae D.

Densil Morgan yn dadansoddi cynnwys y gwaith, ei dafoli'n feirniadol ac yn olrhain ei ddylanwad ar y meddwl Cymreig o'i gyhoeddi yn 1927 hyd heddiw.

Mae'n ddathliad deublyg o greadigrwydd Saunders Lewis ac o gyfraniad aruthrol y Per Ganiedydd i waddol y diwylliant cenedlaethol.

Information

Save 6%

£24.99

£23.27

Information